Paned am ddim i Ofalwyr Di-dâl sy’n ymweld ag Ysbyty Bro Ddyfi - Free cuppa for Unpaid Carers visiting Bro Ddyfi Hospital
- Credu Connecting Carers
- 2 days ago
- 3 min read
O ddydd Llun 9 Mehefin, mae cynllun peilot newydd cyffrous ar gyfer Gofalwyr Di-dâl yn cael ei lansio yn Ysbyty Cymunedol Bro Ddyfi ym Machynlleth.
From Monday 9th June, an exciting new pilot scheme for Unpaid Carers is launching at Bro Ddyfi Community Hospital in Machynlleth.

Crëwyd y cynllun fel cydweithrediad rhwng Credu, y gwasanaeth cymorth i Ofalwyr Di-dâl a gomisiynwyd ym Mhowys, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, a Ward Twymyn yr ysbyty. Mae’r cynllun wedi’i gefnogi gan Ruth, Gweithiwr Allgymorth Credu ar gyfer Machynlleth a Bro Ddyfi, Prif Nyrs Jenny (Uned Twymyn), Aled, Rheolwr Caffi’r ysbyty, a Sarah, Swyddog Cyswllt y Rhanbarth.
The scheme has been created as a collaboration between Credu, the commissioned Unpaid Carers support service in Powys, Powys Teaching Health Board and the Hospital’s Twymyn Ward. It has been supported by Ruth, Credu’s Outreach Worker for Machynlleth and the Dyfi Valley, Sister Jenny (Twymyn Ward), Aled, the Hospital’s Café Manager, and Sarah, District Liaison Officer.

Mae’r cynllun yn defnyddio’r Cerdyn Adnabod Gofalwyr y mae Credu eisoes yn ei gynnig (a elwir weithiau’n Gardiau ‘Rwy’n Gofalu/I Care’). Mae gan bob Gofalwr Di-dâl ym Mhowys, neu unrhyw un sy’n gofalu’n ddi-dâl am rywun sy’n byw ym Mhowys, hawl i gerdyn ‘Rwy’n Gofalu/I Care’, y gellir ei ddefnyddio fel dull adnabod a hefyd i gael gostyngiadau mewn rhai llefydd. O dan y cynllun newydd hwn, gall unrhyw Ofalwr Di-dâl sy’n mynd i Gaffi Ysbyty Bro Ddyfi ddangos ei gerdyn ‘Rwy’n Gofalu/I Care’ wrth y cownter i gael diod am ddim (paned o de, coffi, siocled poeth, neu ddiod feddal) yn ystod oriau agor arferol y caffi (8am-4pm, Llun i Wener).
The scheme uses the Carers ID Card that Credu already offers (sometimes known as ‘I Care Cards’). All Unpaid Carers in Powys, or Unpaid Carers who support someone who lives in Powys, of any age, are entitled to an ‘I Care’ card, which can be used as a form of recognition and to access some discounts. Under this new scheme, any Unpaid Carer who goes to the Café at Bro Ddyfi Hospital can show their ‘I Care’ Card at the counter to receive a free drink (tea, coffee, hot chocolate, or a soft drink) during normal Café opening hours (8am-4pm Monday-Friday).

Nod y cynllun yw rhoi trît bach i Ofalwyr Di-dâl sy’n ymweld â’r ysbyty, gan fod llawer ohonynt yn treulio oriau hir, blinedig yn teithio yn ôl ac ymlaen i’r ysbyty i weld eu hanwyliaid, ac yn parhau i ofalu amdanynt hyd yn oed tra byddant yn yr ysbyty. Gallai hyn fod yn ddechreuad neu ddiwedd positif i’w hymweliad - neu fod yn ddiod i fynd mewn mwg teithio hyd yn oed ar gyfer y daith hir yn ôl adref.
The scheme hopes to provide a small treat to Unpaid Carers who visit Bro Ddyfi Hospital, many of whom are spending several long, tiring hours day after day travelling to and from hospital to visit their loved one, and continuing to care for them while they are in hospital. This could be a little positive at the start or end of their visit, or to even take in a travel mug for the long drive back home.
Os ydych chi’n Ofalwr Di-dâl ac yn dymuno cael Cerdyn Adnabod Gofalwyr Di-dâl gan Gredu (Cerdyn Rwy’n Gofalu/‘I Care’), neu os hoffech sgwrs am gymorth arall i chi a’ch teulu, cysylltwch â Ruth ar 07976 877758 neu 03330 143377.
If you are an Unpaid Carer and you would like a Credu Unpaid Carers ID Card (‘I Care Card’), or a conversation about other support for you and your family, please contact Ruth on 07976 877758 or 03330 143377.
Comments