Gofalwyr Ceredigion Carers
Brechlyn Covid-19 i Ofalwyr yng Ngheredigion / Covid-19 Vaccine for Carers in Ceredigion

Mewn ymateb i'r canllawiau cenedlaethol diwygiedig gan y Cydbwyllgor ar Imiwneiddio (JCVI), mae Llywodraeth Cymru bellach wedi nodi'r canllawiau ar gyfer sut y gall Gofalwyr di-dâl yng Nghymru ddarganfod pryd y maent yn gymwys i gael y brechlyn Covid-19.
Oherwydd y nifer fawr o Ofalwyr di-dâl yng Nghymru, dywedwyd wrth bob bwrdd iechyd i ganolbwyntio eu rhaglenni brechu ar y Gofalwyr di-dâl a fydd yn amddiffyn pobl sydd â'r risg uchaf ac a fydd yn cael yr effaith fwyaf ar atal marwolaethau.
Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi system flaenoriaeth i helpu i nodi pa Ofalwyr y dylid eu blaenoriaethu ar gyfer y brechlyn. Mae'r canllaw yn cynnwys rhestr o amodau y mae'n rhaid i Ofalwr eu bodloni i gael eu cynnwys yng ngrŵp blaenoriaeth 6.
Gallwch ddarllen canllawiau Llywodraeth Cymru yma: Brechiad Covid-19 ar gyfer Gofalwyr di-dâl
Beth mae hyn yn ei olygu i Ofalwyr yng Ngheredigion?